3. Darfydded am y dydd y'm ganwyd ynddo, a'r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.
4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.
5. Tywyllwch a chysgod marwolaeth a'i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a'i dychryno.
6. Y nos honno, tywyllwch a'i cymero; na chydier hi รข dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.
7. Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.
8. A'r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a'i melltithio hi.