1. Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd.
2. A Job a lefarodd, ac a ddywedodd,
3. Darfydded am y dydd y'm ganwyd ynddo, a'r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw.
4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno.
5. Tywyllwch a chysgod marwolaeth a'i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a'i dychryno.
6. Y nos honno, tywyllwch a'i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd.
7. Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi.
8. A'r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a'i melltithio hi.
9. A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd:
10. Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid.
11. Paham na bûm farw o'r bru? na threngais pan ddeuthum allan o'r groth?
12. Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno?
13. Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi.
14. Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd;
15. Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian;
16. Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni.