Job 29:12-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Am fy mod yn gwaredu'r tlawd a fyddai yn gweiddi, a'r amddifad, a'r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.

13. Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.

14. Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a'm barn fyddai fel mantell a choron.

15. Llygaid oeddwn i'r dall; a thraed oeddwn i'r cloff.

16. Tad oeddwn i'r anghenog; a'r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.

17. Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o'i ddannedd ef.

18. Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau รข'r tywod.

19. Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a'r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.

20. Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a'm bwa a adnewyddai yn fy llaw.

Job 29