Job 28:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.

9. Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd.

10. Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.

11. Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.

12. Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?

Job 28