Job 28:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.

6. Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.

7. Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:

8. Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.

9. Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o'r gwraidd.

Job 28