Job 28:12-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?

13. Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.

14. Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.

15. Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.

16. Ni chyffelybir hi i'r aur o Offir; nac i'r onics gwerthfawr, nac i'r saffir.

17. Nid aur a grisial a'i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.

18. Ni chofir y cwrel, na'r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.

19. Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.

20. Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?

21. Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.

22. Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â'n clustiau sôn amdani hi.

23. Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.

24. Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd;

25. I wneuthur pwys i'r gwynt; ac efe a bwysa'r dyfroedd wrth fesur.

26. Pan wnaeth efe ddeddf i'r glaw, a ffordd i fellt y taranau:

27. Yna efe a'i gwelodd hi, ac a'i mynegodd hi; efe a'i paratôdd hi, a hefyd efe a'i chwiliodd hi allan.

28. Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.

Job 28