Job 27:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd,

2. Y mae Duw yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a'r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid;

3. Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd Duw yn fy ffroenau;

4. Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd, ac ni thraetha fy nhafod dwyll.

5. Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf.

6. Yn fy nghyfiawnder y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw.

7. Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a'r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir.

8. Canys pa obaith sydd i'r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan?

9. A wrendy Duw ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno?

10. A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar Dduw bob amser?

11. Myfi a'ch dysgaf chwi trwy law Duw: ni chelaf yr hyn sydd gyda'r Hollalluog.

12. Wele, chwychwi oll a'i gwelsoch; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd?

Job 27