Job 25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd,

2. Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau.

3. A oes gyfrif o'i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?

4. Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân?

5. Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi; a'r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef:

6. Pa faint llai dyn, yr hwn sydd bryf; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn?