Job 24:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i'w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i'w plant.

6. Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant.

7. Gwnânt i'r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni.

8. Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig.

Job 24