Job 24:12-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Y mae gwŷr yn griddfan o'r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.

13. Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau.

14. Gyda'r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a'r anghenog; a'r nos y bydd efe fel lleidr.

15. A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb.

16. Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni.

17. Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt.

18. Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd.

19. Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira: felly y bedd y rhai a bechasant.

20. Y groth a'i gollwng ef dros gof, melys fydd gan y pryf ef; ni chofir ef mwy: ac anwiredd a dorrir fel pren.

21. Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i'r weddw.

22. Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o'i einioes.

23. Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy.

24. Hwynt‐hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen.

Job 24