1. Paham, gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog, na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef?
2. Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt.
3. Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl.
4. Maent yn troi yr anghenog allan o'r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant.
5. Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i'w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i'w plant.
6. Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant.
7. Gwnânt i'r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni.
8. Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig.
9. Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd.
10. Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog.
11. Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig.
12. Y mae gwŷr yn griddfan o'r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn.