Job 23:13-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ond y mae efe yn un, a phwy a'i try ef? a'r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a'i gwna.

14. Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o'r fath bethau.

15. Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.

16. Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon, a'r Hollalluog a'm cythryblodd:

17. Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o'm gŵydd.

Job 23