Job 23:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2. Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na'm huchenaid.

3. O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef!

4. Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llanwn fy ngenau â rhesymau.

5. Mynnwn wybod â pha eiriau y'm hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf.

6. A ddadlau efe i'm herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.

7. Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.

8. Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:

9. Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:

Job 23