Job 22:26-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at Dduw.

27. Ti a weddïi arno ef, ac efe a'th wrendy; a thi a deli dy addunedau.

28. Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a'r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd.

29. Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg.

30. Efe a wareda ynys y diniwed: a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.

Job 22