Job 21:6-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.

7. Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?

8. Eu had hwy sydd safadwy o'u blaen gyda hwynt, a'u hiliogaeth yn eu golwg.

9. Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy.

10. Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla.

11. Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a'u bechgyn a neidiant.

12. Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ.

13. Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i'r bedd.

14. Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.

15. Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno?

16. Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.

17. Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig.

18. Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia'r corwynt.

19. Duw a guddia ei anwiredd ef i'w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a'i gwybydd.

20. Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog.

21. Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef?

22. A ddysg neb wybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai uchel.

Job 21