5. Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau.
6. Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.
7. Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth?
8. Eu had hwy sydd safadwy o'u blaen gyda hwynt, a'u hiliogaeth yn eu golwg.
9. Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy.
10. Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla.
11. Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a'u bechgyn a neidiant.
12. Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ.
13. Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i'r bedd.
14. Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd.
15. Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno?
16. Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi.
17. Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig.