Job 21:31-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth?

32. Eto efe a ddygir i'r bedd, ac a erys yn y pentwr.

33. Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o'i flaen ef.

34. Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?

Job 21