Job 20:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a'i chwyda: Duw a'i tyn allan o'i fol ef.

16. Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a'i lladd ef.

17. Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.

18. Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono.

Job 20