Job 18:9-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a'r gwylliad fydd drech nag ef.

10. Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr.

11. Braw a'i brawycha ef o amgylch, ac a'i gyr i gymryd ei draed.

12. Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys.

13. Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef.

Job 18