Job 17:11-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon.

12. Gwnânt y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch.

13. Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely.

14. Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a'm chwaer wyt.

15. A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith?

16. Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.

Job 17