Job 16:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Clywais lawer o'r fath hyn: cysurwyr gofidus ydych chwi oll.

3. Oni cheir diwedd ar eiriau ofer? neu pa beth sydd yn dy gryfhau di i ateb?

4. Mi a fedrwn ddywedyd fel chwithau: pe byddai eich enaid chwi yn lle fy enaid i, medrwn bentyrru geiriau i'ch erbyn, ac ysgwyd fy mhen arnoch.

5. Ond mi a'ch cryfhawn chwi â'm genau; a symudiad fy ngwefusau a esmwythâi eich gofid.

6. Os llefaraf fi, nid esmwytha fy nolur; ac os peidiaf, ai llai fy ngofid?

7. Ond yn awr efe a'm blinodd i; anrheithiaist fy holl gynulleidfa:

8. A chroengrychaist fi, a hynny sydd dystiolaeth: a'm culni yn codi ynof, a dystiolaetha yn fy wyneb.

9. Yn ei ddicllondeb y'm rhwyga yr hwn a'm casâ: efe a ysgyrnyga ddannedd arnaf; fy ngwrthwynebwr a flaenllymodd ei lygaid yn fy erbyn.

10. Hwy a ledasant eu safnau arnaf; trawsant fy nghernau yn ddirmygus; ymgasglasant ynghyd yn fy erbyn.

11. Duw a'm rhoddes i'r anwir; ac a'm trodd i ddwylo yr annuwiolion.

Job 16