Job 15:32-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a'i gangen ni lasa.

33. Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden.

34. Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr.

35. Y maent yn ymddŵyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a'u bol sydd yn darpar twyll.

Job 15