Job 15:19-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. I'r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy.

20. Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.

21. Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno.

22. Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno.

23. Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law.

Job 15