6. Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi Duw, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.
7. Ond gofyn yn awr i'r anifeiliaid, a hwy a'th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.
8. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a'th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.
9. Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn?
10. Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.
11. Onid y glust a farna ymadroddion? a'r genau a archwaetha ei fwyd?
12. Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.
13. Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo.
14. Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno.
15. Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a'u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear.
16. Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a'r twyllodrus.
17. Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr.
18. Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt.