Job 12:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2. Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.

3. Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?

4. Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe a'i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.

5. Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â'i draed.

Job 12