Job 12:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2. Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb.

3. Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn?

4. Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe a'i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith.

5. Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â'i draed.

6. Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i'r rhai sydd yn cyffroi Duw, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo.

7. Ond gofyn yn awr i'r anifeiliaid, a hwy a'th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti.

8. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a'th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti.

9. Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn?

10. Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn.

11. Onid y glust a farna ymadroddion? a'r genau a archwaetha ei fwyd?

12. Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau.

Job 12