Job 11:5-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ond, O na lefarai Duw, ac nad agorai ei wefusau yn dy erbyn,

6. A mynegi i ti ddirgeledigaethau doethineb, eu bod yn ddau cymaint â'r hyn sydd! Cydnebydd gan hynny i Dduw ofyn gennyt lai nag haeddai dy anwiredd.

7. A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd?

8. Cyfuwch â'r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nag uffern yw, beth a elli di ei wybod?

9. Mae ei fesur ef yn hwy na'r ddaear, ac yn lletach na'r môr.

10. Os tyr efe ymaith, ac os carchara: os casgl ynghyd, pwy a'i rhwystra ef?

Job 11