Job 10:14-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Os pechaf, ti a'm gwyli, ac ni'm glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15. Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

16. Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

17. Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i'm herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i'm herbyn.

Job 10