Job 1:19-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac wele, gwynt mawr a ddaeth oddi ar yr anialwch, ac a drawodd wrth bedair congl y tŷ, ac efe a syrthiodd ar y llanciau, a buant feirw; ond myfi fy hun yn unig a ddihengais i fynegi i ti.

20. Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;

21. Ac a ddywedodd, Noeth y deuthum o groth fy mam, a noeth y dychwelaf yno. Yr Arglwydd a roddodd, ar Arglwydd a ddygodd ymaith; bendigedig fyddo enw yr Arglwydd.

22. Yn hyn i gyd ni phechodd Job, ac ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw.

Job 1