Jeremeia 8:17-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Canys wele, mi a ddanfonaf seirff, asbiaid i'ch mysg, y rhai nid oes swyn rhagddynt: a hwy a'ch brathant chwi, medd yr Arglwydd.

18. Pan ymgysurwn yn erbyn gofid, fy nghalon sydd yn gofidio ynof.

19. Wele lais gwaedd merch fy mhobl, oblegid y rhai o wlad bell: Onid ydyw yr Arglwydd yn Seion? onid yw ei brenin hi ynddi? paham y'm digiasant รข'u delwau cerfiedig, ac ag oferedd dieithr?

20. Y cynhaeaf a aeth heibio, darfu yr haf, ac nid ydym ni gadwedig.

21. Am friw merch fy mhobl y'm briwyd i: galerais; daliodd synder fi.

22. Onid oes driagl yn Gilead? onid oes yno ffisigwr? paham na wellha iechyd merch fy mhobl?

Jeremeia 8