Jeremeia 52:18-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A hwy a ddygasant ymaith y crochanau, a'r rhawiau, a'r saltringau, a'r cawgiau, a'r thuserau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt.

19. A'r ffiolau, a'r pedyll tân, a'r cawgiau, a'r crochanau, a'r canwyllbrennau, a'r thuserau, a'r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith.

20. Y ddwy golofn, un môr, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion, y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn.

21. Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeuddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a'i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau yr oedd.

22. A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwydwaith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a'i phomgranadau.

23. A'r pomgranadau oeddynt, onid pedwar, cant ar ystlys: yr holl bomgranadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant.

24. A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw y drws.

25. Ac efe a gymerodd o'r ddinas ystafellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas.

26. A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon.

27. A brenin Babilon a'u trawodd hwynt, ac a'u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o'i wlad ei hun.

28. Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon.

29. Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion.

30. Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant.

31. Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, Efil‐merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad, a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a'i dug ef allan o'r carchardy;

32. Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon.

33. Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes.

34. Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.

Jeremeia 52