Jeremeia 52:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o'r bobl wael, a'r gweddill o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a'r gweddill o'r bobl.

16. Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr.

17. A'r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon.

Jeremeia 52