Jeremeia 52:12-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem;

13. Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr, a losgodd efe â thân.

14. A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch.

15. Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o'r bobl wael, a'r gweddill o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a'r gweddill o'r bobl.

16. Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr.

17. A'r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon.

18. A hwy a ddygasant ymaith y crochanau, a'r rhawiau, a'r saltringau, a'r cawgiau, a'r thuserau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt.

19. A'r ffiolau, a'r pedyll tân, a'r cawgiau, a'r crochanau, a'r canwyllbrennau, a'r thuserau, a'r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith.

20. Y ddwy golofn, un môr, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion, y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn.

Jeremeia 52