1. Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.
2. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim.
3. Oherwydd gan ddigofaint yr Arglwydd y bu, yn Jerwsalem ac yn Jwda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o'i olwg, wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon.
4. Ac yn y nawfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a'i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch.
5. Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i'r brenin Sedeceia.
6. Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o'r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad.
7. Yna y torrwyd y ddinas; a'r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o'r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.