52. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf fi â'i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan.
53. Er i Babilon ddyrchafu i'r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.
54. Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid.
55. Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o'i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt.
56. Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a'i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn sicr.
57. A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a'i doethion, ei phenaethiaid, a'i swyddogion, a'i chedyrn: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd.
58. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a'i huchel byrth a losgir â thân; a'r bobl a ymboenant mewn oferedd, a'r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.
59. Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd.
60. Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.
61. A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn;
62. Yna dywed, O Arglwydd, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol.
63. A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates:
64. A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi arni: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.