Jeremeia 51:47-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a'i holl wlad hi a waradwyddir, a'i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol.

48. Yna y nefoedd a'r ddaear, a'r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o'r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr Arglwydd.

49. Fel y gwnaeth Babilon i'r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear.

50. Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr Arglwydd o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi.

51. Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd.

52. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf fi â'i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan.

53. Er i Babilon ddyrchafu i'r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.

54. Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid.

55. Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o'i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt.

Jeremeia 51