Jeremeia 51:39-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, a mi a'u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont hun dragwyddol, ac na ddeffrônt, medd yr Arglwydd.

40. Myfi a'u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i'r lladdfa, fel hyrddod a bychod.

41. Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd!

42. Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef.

43. Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi.

44. A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o'i safn ef yr hyn a lyncodd; a'r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth.

45. Deuwch allan o'i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr Arglwydd,

46. A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a'r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr.

47. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a'i holl wlad hi a waradwyddir, a'i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol.

48. Yna y nefoedd a'r ddaear, a'r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o'r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr Arglwydd.

49. Fel y gwnaeth Babilon i'r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear.

50. Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr Arglwydd o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi.

51. Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd.

Jeremeia 51