30. Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a'i barrau a dorrwyd.
31. Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr, a chennad i gyfarfod â chennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o'i chwr,
32. Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr.
33. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Merch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrder y daw amser cynhaeaf iddi.
34. Nebuchodonosor brenin Babilon a'm hysodd, ac a'm hysigodd i; efe a'm gwnaeth fel llestr gwag; efe a'm llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o'm danteithion; efe a'm bwriodd i allan.
35. Y cam a wnaed i mi ac i'm cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a'm gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem.
36. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadl di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac a sychaf ei ffynhonnau hi.
37. A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn chwibaniad, heb breswylydd.
38. Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod.
39. Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, a mi a'u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont hun dragwyddol, ac na ddeffrônt, medd yr Arglwydd.
40. Myfi a'u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i'r lladdfa, fel hyrddod a bychod.
41. Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd!