25. Wele fi i'th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr Arglwydd; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th dreiglaf di i lawr o'r creigiau, ac a'th wnaf di yn fynydd llosg.
26. Ac ni chymerant ohonot faen congl, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr Arglwydd.
27. Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled รข'r lindys blewog.
28. Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a'i thywysogion, a'i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef.
29. Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi.