Jeremeia 51:21-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A thi hefyd y gwasgaraf y march a'r marchwr; ac â thi y drylliaf y cerbyd a'i farchog;

22. A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a'r forwyn;

23. A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a'i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a'i iau ychen; ac â thi y drylliaf y tywysogion a'r penaethiaid.

24. A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr Arglwydd.

25. Wele fi i'th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr Arglwydd; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th dreiglaf di i lawr o'r creigiau, ac a'th wnaf di yn fynydd llosg.

26. Ac ni chymerant ohonot faen congl, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr Arglwydd.

27. Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â'r lindys blewog.

28. Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a'i thywysogion, a'i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef.

29. Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi.

30. Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a'i barrau a dorrwyd.

31. Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr, a chennad i gyfarfod â chennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o'i chwr,

32. Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr.

Jeremeia 51