Jeremeia 51:20-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd;

21. A thi hefyd y gwasgaraf y march a'r marchwr; ac â thi y drylliaf y cerbyd a'i farchog;

22. A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a'r forwyn;

23. A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a'i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a'i iau ychen; ac â thi y drylliaf y tywysogion a'r penaethiaid.

Jeremeia 51