2. A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a'i nithiant hi, ac a wacânt ei thir hi; oherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar ddydd blinder.
3. Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi.
4. Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a'r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi.
5. Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei Dduw, gan Arglwydd y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel.
6. Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei hun: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i'r Arglwydd; efe a dâl y pwyth iddi hi.
7. Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr Arglwydd, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o'i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant.
8. Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagl i'w dolur hi, i edrych a iachâ hi.
9. Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad: canys ei barn a gyrraedd i'r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau.
10. Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr Arglwydd ein Duw.
11. Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr Arglwydd a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i'w dinistrio hi; canys dial yr Arglwydd yw hyn, dial ei deml ef.
12. Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon.