Jeremeia 50:39-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.

40. Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra, a'i chymdogesau, medd yr Arglwydd; felly ni phreswylia neb yno, ac ni erys mab dyn ynddi.

41. Wele, pobl a ddaw o'r gogledd, a chenedl fawr, a brenhinoedd lawer a godir o eithafoedd y ddaear.

42. Y bwa a'r waywffon a ddaliant; creulon ydynt, ac ni thosturiant: eu llef fel môr a rua, ac ar feirch y marchogant yn daclus i'th erbyn di, merch Babilon, fel gŵr i ryfel.

43. Brenin Babilon a glywodd sôn amdanynt, a'i ddwylo ef a lesgasant: gwasgfa a'i daliodd ef, a gwewyr fel gwraig wrth esgor.

44. Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen i drigfa y cadarn: eithr mi a wnaf iddo ef redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi yr amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?

45. Am hynny gwrandewch chwi gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Babilon, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn gwlad y Caldeaid: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.

46. Gan drwst goresgyniad Babilon y cynhyrfa y ddaear, ac y clywir y waedd ymysg y cenhedloedd.

Jeremeia 50