Jeremeia 50:29-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i'w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn Sanct Israel.

30. Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a'i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd.

31. Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd Arglwydd Dduw y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf â thi.

32. A'r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a'i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.

33. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a'r a'u caethiwodd hwynt a'u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.

34. Eu Gwaredwr sydd gryf; Arglwydd y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt, i beri llonydd i'r wlad, ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon.

Jeremeia 50