Jeremeia 50:26-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Deuwch yn ei herbyn o'r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi; dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni.

27. Lleddwch ei holl fustych hi; disgynnant i'r lladdfa: gwae hwynt! canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.

28. Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr Arglwydd ein Duw ni, dial ei deml ef.

29. Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i'w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn Sanct Israel.

30. Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a'i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd.

31. Wele fi yn dy erbyn di, O falch, medd Arglwydd Dduw y lluoedd: oherwydd dy ddydd a ddaeth, yr amser yr ymwelwyf â thi.

32. A'r balch a dramgwydda ac a syrth, ac ni bydd a'i cyfodo: a mi a gyneuaf dân yn ei ddinasoedd, ac efe a ddifa ei holl amgylchoedd ef.

33. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Meibion Israel a meibion Jwda a orthrymwyd ynghyd; a phawb a'r a'u caethiwodd hwynt a'u daliasant yn dynn, ac a wrthodasant eu gollwng hwy ymaith.

34. Eu Gwaredwr sydd gryf; Arglwydd y lluoedd yw ei enw; efe a lwyr ddadlau eu dadl hwynt, i beri llonydd i'r wlad, ac aflonyddwch i breswylwyr Babilon.

35. Cleddyf sydd ar y Caldeaid, medd yr Arglwydd, ac ar drigolion Babilon, ac ar ei thywysogion, ac ar ei doethion.

36. Cleddyf sydd ar y celwyddog, a hwy a ynfydant: cleddyf sydd ar ei chedyrn, a hwy a ddychrynant.

37. Cleddyf sydd ar ei meirch, ac ar ei cherbydau, ac ar yr holl werin sydd yn ei chanol hi; a hwy a fyddant fel gwragedd: cleddyf sydd ar ei thrysorau; a hwy a ysbeilir.

38. Sychder sydd ar ei dyfroedd hi, a hwy a sychant: oherwydd gwlad delwau cerfiedig yw hi, ac mewn eilunod y maent yn ynfydu.

39. Am hynny anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a chathod, a arhosant yno, a chywion yr estrys a drigant ynddi: ac ni phreswylir hi mwyach byth; ac nis cyfanheddir hi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Jeremeia 50