Jeremeia 50:23-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cenhedloedd!

24. Myfi a osodais fagl i ti, a thithau Babilon a ddaliwyd, a heb wybod i ti: ti a gafwyd ac a ddaliwyd, oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr Arglwydd.

25. Yr Arglwydd a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith Arglwydd Dduw y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.

26. Deuwch yn ei herbyn o'r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi; dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni.

27. Lleddwch ei holl fustych hi; disgynnant i'r lladdfa: gwae hwynt! canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.

28. Llef y rhai a ffoant ac a ddihangant o wlad Babilon, i ddangos yn Seion ddial yr Arglwydd ein Duw ni, dial ei deml ef.

29. Gelwch y saethyddion ynghyd yn erbyn Babilon; y perchen bwâu oll, gwersyllwch i'w herbyn hi o amgylch; na chaffed neb ddianc ohoni: telwch iddi yn ôl ei gweithred; ac yn ôl yr hyn oll a wnaeth hi, gwnewch iddi: oherwydd hi a fu falch yn erbyn yr Arglwydd, yn erbyn Sanct Israel.

30. Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd hi; a'i holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd.

Jeremeia 50