17. Fel dafad ar wasgar yw Israel; llewod a'i hymlidiasant ymaith: brenin Asyria yn gyntaf a'i hysodd, a'r Nebuchodonosor yma brenin Babilon yn olaf a'i diesgyrnodd.
18. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â'i wlad, fel yr ymwelais â brenin Asyria.
19. A mi a ddychwelaf Israel i'w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef.
20. Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechodau Jwda, ond nis ceir hwynt: canys myfi a faddeuaf i'r rhai a weddillwyf.
21. Dos i fyny yn erbyn gwlad Merathaim, ie, yn ei herbyn hi, ac yn erbyn trigolion Pecod: anrheithia di a difroda ar eu hôl hwynt, medd yr Arglwydd, a gwna yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti.
22. Trwst rhyfel sydd yn y wlad, a dinistr mawr.
23. Pa fodd y drylliwyd ac y torrwyd gordd yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn ddiffeithwch ymysg y cenhedloedd!
24. Myfi a osodais fagl i ti, a thithau Babilon a ddaliwyd, a heb wybod i ti: ti a gafwyd ac a ddaliwyd, oherwydd i ti ymryson yn erbyn yr Arglwydd.
25. Yr Arglwydd a agorodd ei drysor, ac a ddug allan arfau ei ddigofaint: canys gwaith Arglwydd Dduw y lluoedd yw hyn yng ngwlad y Caldeaid.
26. Deuwch yn ei herbyn o'r cwr eithaf, agorwch ei hysguboriau hi; dyrnwch hi fel pentwr ŷd, a llwyr ddinistriwch hi: na fydded gweddill ohoni.
27. Lleddwch ei holl fustych hi; disgynnant i'r lladdfa: gwae hwynt! canys eu dydd a ddaeth, ac amser eu hymweliad.