Jeremeia 49:31-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr Arglwydd, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.

32. A'u camelod a fydd yn anrhaith, a'u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr Arglwydd.

33. Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.

34. Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd,

35. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.

36. A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a'u gwasgaraf hwynt tua'r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam.

37. Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a'r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr Arglwydd; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.

38. A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a'r tywysogion, medd yr Arglwydd.

39. Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr Arglwydd.

Jeremeia 49