16. Dy erwindeb a'th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr Arglwydd.
17. Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a'r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.
18. Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a'i chymdogesau, medd yr Arglwydd; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.
19. Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o'm blaen i?
20. Am hynny gwrandewch gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a'i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o'r praidd a'u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.