Jeremeia 48:44-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y ffos; a'r hwn a gyfyd o'r ffos, a ddelir yn y fagl: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr Arglwydd.

45. Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr.

46. Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a'th ferched yn gaethion.

47. Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr Arglwydd. Hyd yma y mae barn Moab.

Jeremeia 48